Col 1:24

Roedd Paul yn dioddef am ei fod yn rhannu’r newyddion da am y Meseia efo pobl o genhedloedd eraill. Roedd e’n gweld ei brofiadau o ddioddef dros yr efengyl fel rhan annatod o’i alwad i fod yn apostol (cynrychiolydd personol) i Iesu Grist – gw. 1 Corinthiaid 4:9-13; 2 Corinthiaid 11:23-33.

Doedd Laodicea ond ryw 11 milltir i ffwrdd o Colosa, ac roedd y llythyr hwn wedi ei fwriadu ar gyfer y Cristnogion yno hefyd (gw. 4:16).