Col 3:11

‘Barbariad’ oedd yr enw ar rywun oedd ddim yn siarad yr iaith Roeg, ac felly’n cael ei ystyried yn ddi-addysg. Yna mae ‘anwariad gwyllt’ yn cyfieithu’r Roeg am ‘Scythiad’ (gw.BCN), sef y math gwaethaf o farbariad – roedd yn air oedd yn cael ei ddefnyddio i ddisgrifio’r llwythau oedd yn byw o gwmpas y Môr Du. Josephus ddywedodd fod y Scythiaid ddim llawer gwell na ‘bwystfilod gwyllt’!