Col 3:22

Roedd caethwasiaeth yn gyffredin iawn yng nghyfnod y Testament Newydd. Ond doedd dim gwahaniaeth i fod rhwng caethwas a meistr yn yr eglwys Gristnogol (gw. 1 Corinthiaid 7:22; Galatiaid 3:28). Mae’r Testament Newydd yn cydnabod realiti’r drefn gymdeithasol oedd yn bod, ond ar yr un pryd yn cynnwys egwyddorion fyddai’n ei chwalu maes o law.