Corinth

 

• Roedd Corinth yn un o brif ddinasoedd Gwlad Groeg yn y ganrif gyntaf O.C. gyda 250,000 o ddynion rhydd yn byw yno, a 400,000 o gaethweision. Mae Corinth tua 50 milltir i’r gorllewin o Athen, ar y culdir sy’n cysylltu tir mawr gwlad Groeg gyda’r Peloponeses.
• Roedd yn le pwysig iawn o ran teithio. Cafodd y ddinas y llysenw “Pont Gwlad Groeg” a “Marchnad Gwlad Groeg”. Roedd gan y ddinas ddau borthladd - Cenchreae a Lechaeum. Roedd nwyddau yn teithio trwy’r ddinas o’r Eidal a Sbaen i’r gorllewin, ac o Asia Leiaf (Twrci) a’r Aifft i’r dwyrain. Daeth y ddinas yn enwog am ei chrochenwaith.
• Roedd crefydd yn bwysig yn ninas Corinth. Roedd o leiaf dwsin o demlau yno. Roedd y rhai enwocaf yn demlau i Aphrodite, duwies cariad. Roedd crefydd Aphrodite yn caniatáu puteinio fel rhan o’i defodau. Roedd teml yno hefyd i Asclepius, duw iacháu, ac i Apollo.
• Daeth Corinth yn enwog iawn am ei hanfoesoldeb, a daeth y gair Corintheiddio i olygu gwneud pethau rhywiol anfoesol. Ar un adeg roedd 1,000 o buteiniaid crefyddol yn gweithio yn nheml Aphrodite.
• Dyma lle roedd y Gemau Isthmiaidd yn cael eu cynnal. Dim ond y Gemau Olympaidd oedd yn bwysicach na’r gemau hyn.
• Yn 146 C.C. cafodd y ddinas ei dinistrio yn llwyr, a gwerthwyd y bobl fel caethweision. Yn 46 C.C. cafodd y ddinas ei hail-adeiladu gan Cesar, a dechreuodd Corinth dyfu a llwyddo eto.
• Mae rhai o brif adeiladau Corinth wedi goroesi hyd heddiw – ffynhondy, teml Apollo, marchnad gig, theatr, bema (sedd oedd yn cael ei defnyddio mewn llysoedd barn), synagog. Mae arysgrif yn y theatr yn enwi swyddog o’r ddinas – Erastus. Mae’n bosib bod hwn yn ffrind i Paul – darllenwch Actau 16:13.
• Roedd Gallio, brawd Seneca yn broconswl yn y ddinas yng nghyfnod Paul.
(gweler Actau 18:1, 2, 8, 11, 18; 19:1; 20:2; 1 Corinthiaid 1:2; 2 Corinthiaid 1:1, 23; 6:11; 2 Timotheus 4:20)