Cornelius

 

Cymeriad yn y Testament Newydd o gyfnod yr Eglwys Fore. Daeth yr enw Cornelius yn enw poblogaidd iawn wedi i’r arweinydd Rhufeinig o’r enw Cornelius Sulla ryddhau tua 10,000 o gaethweision .
• Roedd Cornelius y Testament Newydd yn swyddog yn y fyddin Rufeinig o Gesarea. Canwriad oedd yn gofalu am lu o filwyr, y fintai Italaidd. Doedd Cornelius ddim yn Iddew, ond roedd yn credu yn Nuw ac yn gweddïo ac yn rhoi elusennau. Mae’n amlwg fod pobl yn gwybod am Cornelius a’i fywyd duwiol.
• Daeth Cornelius i gredu Efengyl Iesu Grist wrth iddo fe a’r bobl oedd wedi cyfarfod yn ei dŷ wrando ar Pedr yn pregethu.
• Disgynnodd yr Ysbryd Glân arnyn nhw, ac mae’r digwyddiad hwn yn bwysig iawn yn hanes yr eglwys gynnar. Mae’n dangos fod Duw am i bawb ddod i gredu yn Iesu, a’i fod yn rhoi’r Ysbryd, nid yn unig i Iddewon sy’n Gristnogion, ond hefyd i Gristnogion o genhedloedd eraill. Mae Luc yn dweud yr hanes yn Actau 10, ac yna yn ail-ddweud beth ddigwyddodd yn adroddiad Pedr i’r eglwys yn Jerwsalem yn Actau 11.
• Roedd y ffaith fod pobl oedd ddim yn Iddewon yn dod i gredu yn Iesu yn codi cwestiynau mawr i’r eglwys gynnar. Roedd rhai yn meddwl y dylai’r dynion o blith y Cristnogion newydd hyn fynd trwy’r ddefod o gael eu henwaedu, ond ar ôl trafod y mater mewn cyngor yn Jerwsalem, a gwrando ar Pedr, Paul a Barnabas yn disgrifio’r hyn roedd Duw yn ei wneud ym mywydau pobl o genhedloedd eraill, penderfynon nhw yn erbyn gorfodi’r dynionl i gael enwaediad.
(gweler Actau 10:1-43)