Cyntedd Colofnog Solomon

 

• Roedd Cyntedd Colofnog Solomon yn rhan o’r deml yn Jerwsalem. Adeilad mawr ac ysblennydd iawn. Roedd y deml wedi ei rhannu yn wahanol rannau e.e. y llys allanol (llys y Cenhedloedd), llys y Gwragedd, llys Israel, llys yr Offeiriaid, Y Cysegr, Y Cysegr Mwyaf Sanctaidd.
• Yn rhedeg o amgylch y llys allanol roedd cyntedd. Roedd y Cyntedd Brenhinol ar ochr ddeheuol y deml. Wedyn ar yr ochr orllewinol roedd Cyntedd Solomon. Roedd rhai pobl yn y ganrif gyntaf yn meddwl bod y cyntedd hwn yn dyddio o gyfnod y brenin Solomon, sef y brenin adeiladodd y deml gyntaf (tua 966 C.C.?). Roedd y cyntedd wedi ei ffurfio o golofnau uchel a thô wedi ei wneud o goed cedrwydd (cedar). Roedd yr arbenigwyr yn y Gyfraith yn rhoi gwersi ac yn cynnal trafodaethau yn y cynteddau hyn.
(gweler Ioan 10:23)