Cyprus

 

• Ynys yn y Môr Canoldir
• Roedd Iddewon wedi setlo yno ers blynyddoedd erbyn y ganrif cyntaf O.C.. Roedd Barnabas, cydweithiwr a ffrind Paul, yn dod o ynys Cyprus.
• Yn amser y Testament Newydd roedd Cyprus yn Ranbarth Rufeinig, ac yn enwog am ei gweithfeydd copr a’i diwydiant adeiladu llongau.
• Roedd yr ynys weithiau yn cael ei galw yn Makaria – ystyr y gair ydy “Yr Ynys Lawen”. Mae hinsawdd Cyprus bron yn berffaith, ac mae digon o gynnyrch amrywiol yn tyfu yno. Paffos oedd enw prif-ddinas Cyprus – dinas oedd yn enwog am addoli’r dduwies Fenws, duwies cariad ac anfoesoldeb. Nicosia ydy enw prifddinas Cyprus heddiw.
(gweler Actau 4:36; 11:19-20; 13:4; 15:39; 21:3, 16; 27:4)