Cyrene

 

• Dinas bwysig yn Libia, Gogledd Affrica, i’r gorllewin o Wlad yr Aifft. Roedd porthladd yn ninas Cyrene.
• Mae’n debyg fod llawer iawn o Iddewon yn byw yn Cyrene. Mae’r hanesydd Josephus yn sôn am Iddewon yn gwrthryfela yno. Roedd Simon, y dyn gariodd croes Iesu yn dod o Cyrene, a rhai o’r cenhadon aeth i Antiochia, a hefyd Lucius, yr athro.
• Mae’n debyg fod yna Iddewon o Cyrene yn byw yn Jerwsalem, ac yn mynd i Synagog y Libertiniaid i addoli.
• Roedd rhai o ardal Cyrene yn gwrando ar Pedr ar ddydd y Pentecost.
• Cafodd y ddinas ei dinistrio yn 365 O.C. Shahat ydy’r pentref agosaf at y safle heddiw.
(gweler Mathew 27:32; Marc 15:21, Actau 2:10; 6:9; 11:20; 13:1)