Daniel 6:7

Pydew yn y ddaear lle roedd llewod yn cael eu cadw oedd y ‘ffau’ yma.  Roedd agoriad y pydew ar wyneb y tir, a’r pydew ei hun i lawr yn y ddaear.  Felly roedd y bobl yn cael eu taflu neu eu gollwng i lawr iddo o’r top (gw. 6:23,24).  Mae tystiolaeth archeolegol i’r arfer o daflu drwgweithredwyr i bydew o lewod neu nadroedd.