Decapolis

• Ystyr yr enw ydy “Deg Dinas”.
• Roedd y Decapolis yn gynghrair o ddinasoedd Groegaidd ddaeth at ei gilydd tua 1 O.C. i fasnachu gyda’i gilydd ac i helpu i amddiffyn ei gilydd.
• Roedd ardal y Decapolis bron i gyd i’r dwyrain o Fôr Galilea a’r afon Iorddonen. Y 10 dinas wreiddiol oedd Philadelphia, Gerasa, Dion, Canatha, Raffana, Pela, Scythopolis, Gadara, Hippos a Damascus. Erbyn yr ail ganrif O.C. roedd 18 o ddinasoedd yn y gynghrair. Roedd y dinasoedd yn cael eu rheoli gan gynghorau, ac yn bathu arian eu hunain. Roedd y dinasoedd yn hardd iawn gyda llawer o demlau ac amffitheatrau, yn dangos dylanwad traddodiadau a diwylliant gwlad Groeg.
(gweler Mathew 4: 25; Marc 5:20; 7:31)

(gweler Mathew 4:25; Marc 5:20; 7:31)