Deuteronomium 4:5-8

Roedd y Gyfraith (sef y cyfarwyddiadau roddodd Duw i’w bobl drwy Moses) yn esiampl ac yn dystiolaeth i’r bobloedd o’u cwmpas.  Roedd Duw wedi galw pobl Israel i fod yn bobl sbesial iddo’i hun, ond nid am ei fod yn Dduw sy’n ffafrio rhai pobl ar draul eraill – cyfrifoldeb oedd o, a galwad i fyw mewn ffordd oedd yn dangos i eraill sut un ydy Duw, a’u denu ato.  (Mae Duw, drwy’r proffwyd Eseia, yn dweud ei fod wedi galw Israel i fod yn “olau i’r cenhedloedd”)