Diarhebion 1

adn.1-7 - Rhagarweiniad sy’n amlinellu mor werthfawr ydy’r diarhebion yma.

CASGLIAD 1 (Diarhebion 1:8-9:18) – Gwersi am ddoethineb.  Mae’r athro yn dangos fod gan y dyn ifanc ddau ddewis – drwg/da, doethineb/ffolineb, ffordd Duw/ei ffordd ei hun – ac mae’n dangos beth ydy canlyniadau dilyn y naill ffordd a’r llall.

adn.8-19 – cyngor i barchu Duw, ei gredu ac ymwrthod â themtasiwn.

adn.20-33 – mae Doethineb yn galw ar bobl i wrando arni, ymateb a’i dilyn.  Ond mae rhai pobl yn gwrthod ac yn ei diystyru.  Bydd dydd dial yn dod, ac yna bydd hi’n rhy hwyr.