Elias

 

Cymeriad yn yr Hen Destament o gyfnod y Deyrnas Ranedig. Proffwyd yn Israel, teyrnas y Gogledd yn y 9fed ganrif (tua 875 – 848 C.C.), pan oedd Ahab (gŵr Jesebel) ac Ahaseia yn frenhinoedd ar deyrnas y Gogledd. Dyma brif ddigwyddiadau ei fywyd:
• Elias yn dweud y bydd Duw yn anfon sychder oherwydd bod y bobl yn addoli delwau. Ffoi oddi wrth Ahab. Cael ei fwydo gan gigfrain
• Derbyn bwyd gan wraig weddw o Sareffta. Gwyrth y jar dal blawd a’r botel dal olew. Iacháu mab y wraig weddw
• Herio proffwydi Baal ar ben mynydd Carmel
• Y sychder yn dod i ben
• Elias yn dianc i Fynydd Horeb. Clywed Duw yn siarad yn y distawrwydd mawr ar y mynydd
• Galw Eliseus yn broffwyd i gario mlaen y gwaith
• Gwinllan Naboth
• Elias a’r Brenin Ahaseia
• Elias yn cael ei gymryd i’r nefoedd mewn cerbyd a cheffylau tanllyd

Yn y Testament Newydd mae Elias yn cynrychioli’r proffwydi. Yn Mathew 17 mae hanes gweddnewidiad Iesu, pryd mae Elias yn ymddangos ar ben y mynydd gyda Moses, ac yn siarad gyda Iesu.
(gweler 1 Brenhinoedd 17:1-19:21; 21: 17-28; 2 Brenhinoedd 1:3-3:11; 9:36-10:17; 2 Cronicl 21:12; Mathew 11:14; 16:14-17:12; 27:47-49; Marc 6:15; 8:28-9:13; 15:35-36; Luc 1:17; 4:25-26; 9:8-33; Ioan 1:21-25; Rhufeiniaid 11:2; Iago 5:17)