Epaphras

 

Cymeriad yn y Testament Newydd o gyfnod yr Eglwys Fore. Roedd Epaphras yn un o ffrindiau a chydweithwyr Paul, ac wedi bod yn y carchar hefo fo hefyd. Mae’n debyg fod Epaphras wedi bod yn efengylu yn ninasoedd Phrygia yn ystod yr ail daith genhadol, a’i fod wedi helpu i roi cychwyn i eglwysi Colosia, Hierapolis a Laodicea. Pan oedd Paul yng ngharchar yn Rhufain, aeth Epaphras i’w weld a rhoi newyddion am yr eglwysi hyn, ac wedi i Paul glywed hanes yr eglwys yn Colosia ysgrifennodd lythyr atyn nhw.
(gweler Colosiaid 1:7; 4:12; Philemon 1:23)