Ethiopia

 

• Ystyr yr enw ydy “gwlad y wynebau sydd wedi eu llosgi”
• Mae’n cael ei henwi 20 o weithiau yn y Beibl.
• Nid hwn ydy’r Ethiopia fodern ar gyfandir Affrica, ond rhan o deyrnas y Nubia yn Nyffryn y Nil yn yr Aifft. Roedd y wlad yn estyn o Aswan at y Khartoum fodern. Roedd yr Hebreaid cynnar yn gwybod am y wlad – ac yn cyfeirio at y lle fel Cus.
• Roedd pobl yn credu fod yr Ethiopiaid yn ddisgynyddion i Ham, mab Noa. (Genesis 10:6)
• Mae Herodotus, yr hanesydd Groegaidd, yn disgrifio’r bobl fel “y talaf a’r harddaf o ddynion”.
(gweler Actau 8:27)