Eubwlus

 

Cymeriad yn y Testament Newydd o gyfnod yr Eglwys Fore. Mae’n cael ei enwi fel un sy’n anfon cyfarchion at Timotheus ar ddiwedd ail lythyr Paul ato, felly mae’n debyg ei fod yn aelod o’r eglwys yn Rhufain, gan fod ysgolheigion yn meddwl fod Paul wedi ysgrifennu’r llythyr o’r ddinas honno. Does dim mwy o fanylion amdano ar gael i ni heddiw.
(gweler 2 Timotheus 4:21)