Eunice

 

Cymeriad yn y Testament Newydd o gyfnod yr Eglwys Fore. Mam Timotheus – Iddewes dduwiol, llawn ffydd. Dysgodd Timotheus am yr Ysgrythurau Iddewig pan oedd yn ifanc. Gan nad oedd Timotheus wedi ei enwaedu (Actau 16:3), mae’n debyg nad oedd ei dad, gŵr Eunice, yn Iddew. Roedd yn byw yn ninas Derbe neu yn Lystra.
(gweler 2 Timotheus 1:5)