Exodus 1:8-22

Mae brenin newydd yn yr Aifft oedd yn gwybod dim am hanes Joseff tua 300 mlynedd ynghynt.  Mae’n dechrau gorthrymu pobl Israel am fod ganddo ofn iddyn nhw wrthryfela yn ei erbyn.  Gorchmynodd y brenin i’r bydwragedd ladd pob bachgen oedd yn cael ei eni i’r Hebreaid, ond wnaethon nhw ddim, felly mae’r brenin yn gorchymyn boddi bechgyn yr Hebreaid.