Hanes y Pharo a’i fyddin yn mynd ar ôl yr Hebreaid, a’r ffordd wyrthiol y gwnaethon nhw groesi’r Môr Coch. Mae’r hanes yn dangos yn glir mai Iahwe (yr ARGLWYDD) wnaeth achub pobl Israel. Y cwbl wnaeth Moses a’r bobl oedd ei gredu a gwrando arno (gw. adn.14,30a). Doedd ganddyn nhw ddim gobaith ohonyn nhw eu hunain. Yn ogystal ag achub pobl Israel gwelwn Dduw yn barnu’r Eifftiaid.
Exodus 14:1-31
|