Hanes Moses yn lladd Eifftiwr oedd yn camdrin un o’i bobl. Mae’n dianc i wlad Midian, yn priodi yno maes o law ac yn cael mab. (Roedd y Midianiaid yn ddisgynyddion i Abraham drwy Cetwra. Roedden nhw’n byw mewn pebyll yn yr anialwch.) Drwy ‘gyd-ddigwyddiadau’ y bennod hon roedd Duw yn paratoi Moses i arwain ei bobl o’r Aifft.
Yn adn.23-25 gwelwn fod sefyllfa’r bobl yn cael ei ddisgrifio fel caethwasiaeth. Mae Duw yn clywed eu cri ac yn gwybod fel roedden nhw’n dioddef. Doedd o ddim wedi anghofio amdanyn nhw.
(Yn Actau 7:20-29 cawn grynodeb Steffan – y merthyr Cristnogol cyntaf – o’r hanes sydd yn y bennod yma.)