Exodus 32:1-24

Aaron a’r bobl yn gwneud tarw aur i’w addoli, ac yna’n aberthu iddo.  Roedd wedi ei fodelu ar un o’r hen dduwiau Eifftaidd, ond roedd Aaron yn honni fod y tarw i fod i gynrychioli’r ARGLWYDD (adn.5).  Mae’r hanes yma yn dangos y peryglon o gyfaddawdu.

Ond mae’r bennod hefyd yn adrodd cyfrolau am gymeriad duwiol Moses.  Roedd yr Arglwydd am farnu’r bobl, ac mae’n addo gwneud Moses yn ‘genedl fawr’ yn eu lle (adn.9-10).  Ond mae Moses yn gweddïo drostyn nhw ac yn pledio ar Dduw i beidio eu difa (Mae’n dweud y byddai gwneud hynny yn dystiolaeth wael i’r Eifftiaid, ac mae’n atgoffa Duw o’i addewidion i Abraham, Isaac a Jacob – h.y. enw da Duw oedd yn bwysig yng ngolwg Moses.)

Mae Moses yn mynd i lawr o’r mynydd, a pan mae’n gweld y tarw mae’n gwylltio ac yn malu’r ddwy lechen (Y llechi roedd Duw wedi ysgrifennu arnyn nhw – Exodus 31:18).  Yna mae’r hanes yn dweud ei fod wedi llosgi’r eilun o darw, ei falu’n llwch, ei wasgaru ar ddŵr a gwneud i’r bobl ei yfed.