Exodus 32:20

Mae yna destun Wgaritaidd sy’n disgrifio’r duw Canaaneaidd Mot yn cael ei ddifa gan y dduwies Anat, ac mae’r un drefn yno ag a geir yma – “llosgi ... malu’n llwch ... gwasgaru”.  Mae hyn wedi arwain llawer i gredu fod yma idiom sy’n disgrifio’r ddefod o ddinistrio eilun.