Exodus 32:25-35

Mae Moses yn galw’r bobl sydd ar ochr yr ARGLWYDD i fynd ato, ac mae llwyth Lefi yn gwneud hynny.  Ar ôl iddyn nhw ladd 3,000 o ddynion, a dangos eu ffyddlondeb i’r ARGLWYDD, mae Moses yn mynd yn ôl i fyny’r mynydd i weddïo dros y bobl.  Mae’n gofyn i Dduw faddau iddyn nhw am dorri’r gorchymyn cyntaf (mae hyd yn oed yn cynnig ei hun yn felltith ar eu rhan nhw! – adn.32)  Ond mae Duw yn dweud mai’r sawl bechodd sydd i gael ei gosbi, ac mae’n anfon pla i’w cosbi.