Gal 1:17

Mae ‘Arabia’ yn cyfeirio at y deyrnas Nabateaidd oedd ar ochr ddwyreiniol yr Iorddonen - Gwlad yr Iorddonen a de Syria ein dyddiau ni mae’n debyg. Damascus oedd y ddinas oedd Paul ar ei ffordd iddi pan gafodd ei droedigaeth (gw. Actau 9:1-22; 22:5-16; 26:12-20a).