Gal 1:7

Mae Paul, heb flewyn ar ei dafod, yn dweud yn glir beth mae’n ei feddwl o’r athrawon Iddewig hynny oedd yn honni eu bod nhw’n dilyn Iesu, ond ar yr un pryd yn mynnu fod rhaid i bobl o Genhedloedd eraill gadw defodau Iddewig cyn y gallen nhw alw eu hunain yn bobl Dduw. Roedden nhw’n dweud, er enghraifft, fod rhaid i’r dynion dderbyn y ddefod Iddewig o enwaediad. Roedd Paul yn dadlau’n gryf yn erbyn hyn – Rhufeiniaid 2:28-29; 1 Corinthiaid 12:13; Galatiaid 3:28-29; Effesiaid 2:11-18; Colosiaid 3:11. (cf. Philipiaid 3:2-3).