Gal 6:12

Y bobl mae Paul yn cyfeirio atyn nhw ydy’r athrawon Iddewig hynny oedd yn dysgu fod rhaid i Gristnogion o genhedloedd eraill gadw’r Gyfraith Iddewig. Roedden nhw’n dweud, er enghraifft, fod rhaid i’r dynion dderbyn y ddefod Iddewig o enwaediad (Actau 15:5). Roedd Paul yn dadlau’n gryf yn erbyn hyn – Rhufeiniaid 2:28-29; 1 Corinthiaid 12:13; Galatiaid 3:28-29; Effesiaid 2:11-18; Colosiaid 3:11).