Genesis 1:1-27

Mae’r adnodau yma yn dangos yn glir mai Duw ddaeth a’r greadigaeth i fodolaeth.  Nid damwain gosmig ddaeth â’r byd i fod – Duw gynlluniodd y cwbl, Duw luniodd y cwbl, ac roedd y gwaith gorffenedig yn plesio Duw.

Mae’n disgrifio hanes Duw yn creu y cwbl mewn chwe diwrnod:

  1. 1:2b-5   -              golau a thywyllwch
  2. 1:6-8      -              cromen o aer – yr atmosffer
  3. 1:9-13    -              casglu’r dŵr at ei gilydd i greu moroedd a sychdir; yna glaswellt, planhigion a choed i dyfu.
  4. 1:14-19 -              yr haul, y lleuad a’r sêr
  5. 1:20-23 -              pysgod a chreaduriaid eraill yn y môr, ac adar
  6. 1:24-27 -              anifeiliaid, ymlusgiaid a phryfed ar y tir sych; yna creu pobl yn wrryw a benyw.

Mae’r geiriau “dwedodd Duw” yn ymddangos 10 gwaith (gw. Salm 33:6,9 a Hebreaid 11:3).  Mae’n dangos awdurdod rhyfeddol Duw.  Mae Ioan 1:1-3 yn uniaethu “Gair Duw”ag ail berson y Drindod Sanctaidd ddaeth yn ddyn o gig a gwaed – sef Iesu.  Mae Colosiaid 1:15-17 yn cadarnhau fod gan y Meseia le canolog yn y Creu.

Mae pobl wedi eu creu i fod yn ddelw o Dduw ei hun h.y. mae rhywbeth o nodweddion a chymeriad Duw ei hun yn cael ei adlewyrchu ynddyn nhw.