Hanes Duw yn galw Abram i adael Haran a mynd i ble bynnag fyddai Duw’n ei ddangos iddo. Mae Abram yn ufudd, ac yn teithio 450 milltir i lawr i wlad Canaan.
Mae Duw yn addo ei fendithio a’i wneud yn genedl fawr. Byddai’n enwog ac yn gyfrwng bendith i eraill. Mae’n dweud y byddai’r rhai fyddai’n dda i Abram yn cael eu bendithio, a’r rhai fyddai’n ei gamdrin yn cael eu melltithio. Mae’n dweud hefyd y byddai pobloedd y byd i gyd yn cael eu bendithio trwyddo.
Yn yr hanes yma eto gwelwn ffydd Abraham yn cael mynegiant yn ei ufudd-dod i Dduw (Hebreaid 11:8)