Genesis 12:10-20

Yma cawn ddau enghraifft o Abram yn llithro:

  1. Y newyn – Does dim son yma fod Duw wedi dweud wrth Abram am fynd i lawr i’r Aifft i osgoi’r newyn.
  2. Ofn Pharo – mae’n cynllwynio i amddiffyn ei hun.  Mae’n awgrymu fod Sarai yn cymryd arni mai ei chwaer oedd hi, nid ei wraig.

Mae Abram yn colli ei ‘noddfa’ rhag y newyn yn yr Aifft ac yn gorfod gadael y wlad.  Ar ddechrau’r bennod nesaf gwelwn ei fod yn mynd yn ôl i’r union fan lle’r oedd o pan ddechreuodd y newyn! (Genesis 12:8,9 / Genesis 13:3,4)