Genesis 15:1-21

Roedd Abram yn dechrau heneiddio, a falle yn dechrau amau os oedd Duw yn mynd i gadw ei addewid iddo.  Ond yma mae Duw yn dod at Abram mewn gweledigaeth ac yn addo mab i Abram, a disgynyddion mor lluosog â’r sêr.  Mae Abram yn credu’r ARGLWYDD.  (O safbwynt dynol roedd y sefyllfa’n edrych yn gwbl anobeithiol, ond yn y bôn roedd Abram yn fodlon trystio Duw.)

Yna mae Duw yn addo rhoi tir Canaan i Abram, ac mae Abram yn gofyn am arwydd.  Mae Duw yn gofyn iddo baratoi aberth, ac mae Abram yn gwneud hynny.  Ond yna gyda’r nos mae’n syrthio i gysgu, ac mae Duw yn siarad gydag o mewn breuddwyd.  Mae’n dweud wrth Abram y bydd ei ddisgynyddion yn gaethweision am 400 mlynedd, ond y byddai maes o law yn cosbi’r genedl wnaeth eu gorthrymu ac arwain disgynyddion Abram i ryddid.

Mae Abram yn gweld trochan tân a ffagl oedd yn llosgi yn pasio rhwng darnau’r anifeiliaid roedd wedi eu paratoi yn aberth, ac mae Duw yn ymrwymo i roi’r tir i ddisgynyddion Abram.  Roedd y weledigaeth yn selio’r ymrwymiad.  Mae’r proffwyd Jeremeia yn cyfeirio at ddefod oedd yn selio cytundeb rhwng pobl, ac yn ôl pob golwg yn seiliedig ar y weledigaeth yma – Jeremeia 34:18,19.