Genesis 15:6

Wnaeth Abram ddim cael ei dderbyn i berthynas iawn â Duw am ei fod yn byw bywyd perffaith, ond am ei fod wedi trystio Duw.  Mae’r adnod yma yn cael ei dyfynnu yn y Testament Newydd i ddangos mai trystio Duw sy’n dod â pobl i berthynas iawn gydag o, nid eu daioni a’u gweithredoedd da (Rhufeiniaid 4:3; Galatiaid 3:6; Iago 2:23).