Genesis 2:18

Mae’r gair Hebraeg sy’n cael ei gyfieithu ‘i’w gynnal’ yn air sy’n cael ei ddefnyddio am Dduw yn Hosea 13:9.  Mewn sawl cyfieithiad Saesneg mae’r gair ‘helper’ yn cael ei ddefnyddio i’w gyfieithu, sy’n gallu rhoi’r camargraff o israddoldeb.  Ond yr hyn sy’n digwydd yma ydy fod Duw yn gweld diffyg yn y ffaith fod y dyn ar ei ben ei hun, ac yn creu’r wraig fel yr ateb i’r diffyg hwnnw.  Mae ymateb Adda yn adn.23 pan mae’n gweld y wraig yn fynegiant o gydraddoldeb y ddau ryw.