Genesis 2:2-3

Roedd y Saboth (dydd o orffwys) yn rhan o drefn Duw o’r dechrau cyntaf.  Nid egwyddor wnaeth ymddangos yn y Gyfraith a’r 10 gorchymyn oedd y Saboth – gw. Marc 7:27.

Yn yr Hebraeg mae’r geiriau am ‘seithfed’ (shefi’î) a ‘gorffwys’ (shefot) yn rhannu’r un gwreiddyn â’r gair Hebraeg am ‘Saboth’.  Mae yna chwarae gyda geiriau yma – bron fel rhyw ‘glec’ gynganeddol.