Genesis 35:1-15

Ar ddechrau’r bennod yma gwelwn Jacob yn edifarhau am ei fethiant, ac mae Duw yn ei alw i fynd yn ôl i Bethel (lle datguddiodd Duw ei hun i Jacob gyntaf pan oedd yn ffoi rhag Esau.)  Mae Jacob yn gorchymyn i bawb daflu eu duwiau ffals i ffwrdd (e.e. Rachel – cf.28:10-22), a cysegru eu hunain yn llwyr i Dduw.  Mae’n cyffesu fod Duw wedi bod yn ffyddlon, wedi ei amddiffyn a’i gynnal.  Mae Duw yn derbyn edifeirwch Jacob a’i sicrhau y byddai’r addewidion wnaeth i Abraham ac Isaac yn cael eu cyflawni trwyddo (adn.11-13).