Genesis 35:22

Does dim awgrym yma fod Jacob wedi gwneud dim ar ôl clywed fod Reuben wedi cysgu gyda Bilha.  Ond wnaeth o ddim anghofio – flynyddoedd lawer wedyn, pan oedd Jacob wedi galw ei feibion ato i’w bendithio cyn iddo farw, mae’n son am y peth (Genesis 49:4).  Mae’n dweud y byddai Reuben yn colli ei safle breintiedig fel y mab hynaf o achos beth wnaeth o.