Golgotha

 

• Dyma lle cafodd Iesu Grist ei groeshoelio.
• Ystyr yr enw Aramaeg ydy “Lle’r Benglog”. Yr enw Lladin am benglog ydy calvaria – a dyma’r gair sy’n rhoi’r enw Bryn Calfaria, neu Groes Calfaria i ni yn y Gymraeg. Efallai fod y bryn yn edrych fel penglog, neu efallai fod y lle wedi cael yr enw am bod cymaint o bobl wedi cael eu dienyddio yno.
• O ddarllen yr Ysgrythur, rydyn ni’n gwybod bod Golgotha y tu allan i waliau Jerwsalem, dim yn bell iawn o un o byrth y ddinas a’r ffordd i mewn i’r ddinas. Roedd gardd gyda bedd ynddi heb fod ymhell. Wyddon ni ddim ble yn union mae’r safle. Mae dau safle heddiw yn cael eu nodi fel man croeshoeliad a chladdu Iesu:
a. Safle Eglwys y Beddrod Sanctaidd.
Mae’r traddodiad am y safle hwn yn mynd yn ôl i’r bedwaredd ganrif. Ar un adeg roedd teml i’r dduwies Fenws wedi ei chodi ar y safle hwn. Cafodd ei dinistrio gan yr Ymerawdwr Cystennin (c 285 – 337 O.C.). Mae rhai arbenigwyr wedi gwneud ymchwiliadau manwl i’r safle hwn. Maen nhw’n credu bod sail gadarn i’r traddodiad, ac yn dweud bod bedd o’r ganrif gyntaf o dan yr adeiladau diweddarach.
b. Calfaria Gordon, neu Bedd yr Ardd.
Cafodd y safle hwn (sydd yn agos at Borth Damascus) ei nodi fel safle posib gan ddyn o’r enw General Charles Gordon yn 1885 wedi iddo sylwi fod siâp penglog ar y graig uwchben gardd lle mae nifer o feddau hen iawn yno.

Ond y gwir ydy mae’n amhosib i ni ddweud ble yn union gafodd Iesu ei groeshoelio a’i gladdu. Mae waliau Jerwsalem wedi cael eu hail godi yn aml ers amser Iesu, ac mae gormod o adeiladu wedi bod dros y blynyddoedd i archeolegwyr wneud ymchwiliad llawn.
(gweler Mathew 27:33; Marc 15:22; Ioan 19:17 )