Gomorra

• Fel arfer mae Gomorra yn cael ei henwi yn yr un frawddeg â Sodom. Doedd y trefi hyn ddim yn bodoli ers canrifoedd lawer, ond roedden nhw’n enwog am ddrygioni ac annuwioldeb eu pobl.
• Cafodd dinas Gomorra ei dinistrio gan dân (Genesis 10)
• Mae’n debyg fod Gomorra i’r de neu i’r de ddwyrain o’r Môr Marw. Mae archeolegwyr yn dweud bod digon o ddŵr yn yr ardaloedd hyn ar un cyfnod a bod poblogaeth fawr o bobl yn byw yno. Ond digwyddodd rhywbeth ac oherwydd y “digwyddiad” ofnadwy yma ciliodd y bobl o’r ardal am dros 600 mlynedd. Mae llawer yn credu bod y Beibl yn disgrifio’r “digwyddiad” hwn yn Genesis 10.
(gweler Mathew 10:15; Rhufeiniaid 9:29; 2 Pedr 2:6,7; Jwdas 1:7)