Heb 1:1-14

 

Mae awdur Hebreaid yn agor ei lythyr trwy ddweud fod y datguddiad llawn a therfynol o Dduw wedi dod yn y Meseia Iesu. Mae'n dweud mor fawr ydy Meseia, ac yn dyfynnu llawer o'r Hen Destament i brofi ei fod yn llawer uwch na’r angylion [Roedd angylion yn bwysig iawn i’r Iddewon oherwydd roedden nhw’n credu fod gan angylion ran yn rhoi'r Gyfraith ar Sinai (cf.Deuteronomium 33:2; Actau 7:38,55; Galatiaid 3:19)].