Heb 6:1,2

Mae’r adnodau hyn yn cyfeirio at chwe phwnc pwysig yn y ffydd Gristnogol sy â’u gwreiddiau’n amlwg yn yr Hen Destament (ysgrifau sanctaidd yr Iddewon):
1. troi cefn ar bechod (BCN – ‘edifeirwch’)
2. credu (BCN – ‘ffydd’ – gw.Genesis 15:6; Habacuc 2:4)
3. defodau golchi (byddai hyn yn cynnwys ‘bedydd’ Cristnogol – Mathew 28:19) (gw. hefyd Eseciel 36:25; Sechareia 13:1)
4. arddodi dwylo (gw. Numeri 27:18,23; Deuteronomium 34:9; Actau 6:6; 13:3; 1 Timotheus 5:22; 2 Timotheus 1:6)
5. y meirw’n dod yn ôl yn fyw (BCN – atgyfodiad) (gw. Eseia 26:19; Daniel 12:2; Ioan 5:25-29; 1 Corinthiaid 15)
6. Duw yn barnu (Genesis 18:25; Eseia 33:22; Daniel 7:9-14