Herod

 

Cymeriad yn y Testament Newydd.
• Hefyd yn cael ei adnabod fel y Brenin Herod. Dyn o Idumea, gafodd ei eni tua’r flwyddyn 73 C.C. Roedd ei dad Antipater yn Iddew, ac wedi ei benodi yn lywodraethwr Jwdea yn 47C.C. Gwnaeth Antipater ei fab Herod yn bennaeth milwrol Galilea
• Pan orchfygodd y Parthiaid Syria a gwlad Israel yn 40C.C. cafodd Herod y teitl “brenin yr Iddewon” gan senedd Rhufain, ac ar ôl tair blynedd o ymladd llwyddodd i ddisodli Antigonus, yr Hasmonead. Dechreuodd deyrnasu yno tua 37 C.C. a phriodi gyda Mariamne, wyres y cyn-archoffeiriad o’r teulu Hasmoneaidd, Hurcanus II.
• Doedd Herod ddim yn boblogaidd gyda’r Iddewon o gwbl. Bu’n rheoli hyd y flwyddyn 4 C.C.
• Daeth yn enwog am ysblander yr adeiladau a gododd – adeiladodd theatrau ac amphitheatrau newydd a chofgolofnau mawr. Er iddo geisio plesio’r Iddewon wrth ail-adeiladu ac adfer y deml yn Jerwsalem (prosiect ddechreuodd tua 20 C.C ), roedd llawer o bobl yn flin am iddo hefyd godi temlau i dduwiau paganaidd mewn mannau eraill.
• Roedd yn ddyn creulon iawn. O dipyn i beth aeth ati i gael gwared â phob un o’r teulu Hasmoneaidd oedd ar ôl. Er mwyn diogelu ei le fel brenin Jwdea, llofruddiodd ei wraig, tri mab, ei fam-yng-nghyfraith, a’i ewythr. Gwyddom hefyd wrth gwrs, ei fod wedi llofruddio’r babanod yn ardal Bethlehem adeg geni Iesu. Mae sôn bod Alexander, yr Ymerawdr, wedi dweud unwaith ei bod yn fwy diogel i fod yn un o foch Herod nac yn fab iddo!
• Mae’n hawdd iawn deall pam roedd e wedi cynhyrfu pan gafodd Iesu ei eni, wrth glywed y tri gŵr doeth yn sôn am frenin newydd – dyma’r union beth roedd wedi ei ofni ar hyd ei gyfnod fel brenin.
• Wedi iddo farw, cafodd y wlad ei rhannu rhwng tri o’i feibion – a) Archelaus i reoli Jwdea a Samaria b) Antipas i reoli Galilea a Peraea c)Philip i reoli’r Gogledd Ddwyrain, Itwrea a Trachonitis.
(gweler Mathew 2:1-22; Luc 1:5 hefyd COEDEN DEULUOL HEROD)