Herod Antipas

 

Cymeriad yn y Testament Newydd. Mab Herod Fawr a Malthace. Daeth i reoli Galilea a Perea ar ôl i Herod Fawr farw (o 4 C.C. i 39 O.C.). Mae’n cael ei alw yn frenin yn Efengyl Marc a Mathew - dyma oedd ei deitl poblogaidd ymhlith y Galileaid, ac yn Rhufain.
• Fel ei dad o’i flaen, roedd Herod Antipas yn adeiladwr o fri – roedd yn gyfrifol am adeiladu tref Tiberias a’i henwi ar ôl yr Ymerawdwr Tiberiws.
• Priododd merch y Brenin Aretas, ond yna ei hysgaru er mwyn priodi Herodias, gwraig ei hanner frawd Philip. Beirniadodd Ioan Fedyddiwr ef yn llym am hyn, ac achos hynny cafodd Ioan ei garcharu ac yna ei ddienyddio ganddo.
• Roedd Herod Antipas yn Jerwsalem ar gyfer Gŵyl y Bara Croyw pan gafodd Iesu ei arestio a gorfod sefyll ei brawf o flaen Peilat. Anfonodd Peilat ef at Herod, ond gwrthododd wneud dim byd ag e. Felly cafodd Iesu ei anfon yn ôl at Peilat.
• Llwyddodd Herod yn ystod ymerodraeth Tiberiws, ond pan ddaeth Caligula i reoli, cafodd ei symud o’i swydd a’i alltudio ar ôl i’w nai Agripa (Herod Agripa 1) wneud cyhuddiad yn ei erbyn.
(gweler Mathew 14:1-10; Marc 6:14-27; 8:15; Luc 3:1,19; 9:7,9; 13:31; 23:6-12,15; Actau 4:27; 13:1 hefyd ANTIPAS; COEDEN DEULUOL HEROD)