Heseceia

 

Cymeriad yn yr Hen Destament o gyfnod y Deyrnas Ranedig.
• Mae ei enw i’w weld yng nghoeden deuluol Iesu.
• Daeth yn frenin ar Jwda, teyrnas y De (715 – 686 C.C.). Roedd yn enwog am ei dduwioldeb a’i allu gwleidyddol.
• Oherwydd anufudd-dod ac arferion paganaidd Ahas, ei dad, a’i barodrwydd i blygu i Assyria, gwnaeth Heseceia lawer o newidiadau yn y wlad pan ddaeth yn frenin. Ail-sefydlodd y deml fel canolfan addoliad, a’i glanhau o bob dylanwad paganaidd oedd wedi dod i mewn. Aeth ati i ail-sefydlu trefn addoliad ynddi, ac ail-ddechrau dathlu Gŵyl y Pasg. Cafodd wared hefyd o’r allorau a’r delwau paganaidd eraill oedd yn y wlad (gan gynnwys sarff bres Moses, oedd erbyn hyn yn cael ei haddoli gan rai).
• Safodd yn erbyn grym Assyria, a pharatoi Jerwsalem ar gyfer gwarchae drwy adeiladu twnnel Siloam i gael dŵr i’r ddinas. Bu’r ddinas dan warchae’r Assyriaid, ond dyma Duw yn dinistrio’r fyddin Assyraidd ac yn achub Jerwsalem.
• Roedd Eseia yn proffwydo yn ystod brenhiniaeth Heseceia.
• Ar ddiwedd ei fywyd bu’n dioddef o gornwydydd, ond cafodd ei iacháu yn wyrthiol gan Dduw.
(gweler 2 Brenhinoedd 16:20; 2 Brenhinoedd 18:1-21:3; 1 Cronicl 3:13-4:41; 2 Cronicl 28: 27-33:3; Diarhebion 25:1; Eseia1:1; 36:1-39:8; Jeremeia 15:4 -26:18/19; Hosea 1:1; Micha 1:1; Seffaneia 1:1; Mathew 1:9,10)