Hymenaeus

 

Cymeriad yn y Testament Newydd, o gyfnod yr Eglwys Fore. Yn llythyr cyntaf Paul at Timotheus mae’n cael ei gysylltu gyda dyn o’r enw Alexander, ac yn cael ei gyhuddo o gablu. Yna yn ail lythyr Paul at Timotheus mae’n cael ei gysylltu gyda dyn o’r enw Philetus. Mae’r ddau wedi troi cefn ar yr Efengyl ac yn dysgu pethau anghywir am yr atgyfodiad. Mae Paul yn rhybuddio Timotheus bod geiriau pobl fel hyn yn gwneud drwg, mae fel cancr yn lledu trwy gorff.
(gweler 1 Timotheus 1:20; 2 Timotheus 2:17)