Iago 5:1-6

Mae’r adnodau hyn yn ein hatgoffa o broffwydoliaethau’r Hen Destament yn erbyn y gwledydd paganaidd (gw. Eseia 13-23; Jeremeia 46-51; Eseciel 25-32; Amos 1:3-2:16; Seffaneia 2:4-15).

Mae’r Testament Newydd yn cyfeirio’n aml iawn at y peryg o adael i arian reoli ein bywydau (gw. Mathew 6:24; Luc 12:15,21; 1 Timotheus 6:6-10,17-19; Hebreaid 13:5; 1 Pedr 5:2).

 Mae Iago, fel y proffwydi, yn cyhoeddi barn Duw ar y cyfoethog sy'n gorthrymu pobl a ddim yn talu cyflogau teg (Jeremeia 22:13-14; Malachi 3:5; Luc 16:19-31).