Iago fab Alffeus

 

Cymeriad yn y Testament Newydd o gyfnod bywyd Iesu a chyfnod yr Eglwys Fore. Dyn ni ddim yn gwybod llawer amdano ond ei fod yn cael ei restru fel un o’r disgyblion.
Mae’n bosibl bod cyfeiriad ato hefyd yn Marc 15:40 lle mae’n cael ei alw’n Iago bach – naill ai oherwydd ei fod o’n llai yn gorfforol neu yn iau na’r Iago arall oedd yn un o’r deuddeg, Iago mab Sebedeus, brawd Ioan. Ond mae eraill yn credu mai cyfeiriad ydy hwn at Iago brawd 'bach' Iesu (cymh. Math 27:56; Marc 15:40; 16:1 )
(gweler Mathew 10:3; 15:40; Marc 3:18; Luc 6:15; Actau 1:13)