In 10:1-42

 

Duw ei hun oedd Bugail Israel (Salm 23:1; 80:1; Eseciel 34:11-16), ond roedd wedi rhoi ei bobl yng ngofal bugeiliaid oedd wedi camddefnyddio eu statws ac wedi diystyru eu cyfrifoldebau (Eseciel 34:1-10). Roedd Duw wedi addo anfon Bugail (Y Meseia) fyddai'n gofalu am y defaid (Eseciel 34:23-24).
Mae Iesu'n dweud mai fe ydy'r Bugail hwnnw, a bod ei braidd yn adnabod ei lais. Mae hefyd yn disgrifio'i hun fel y drws y mae'r defaid yn cael mynediad i'r bywyd trwyddo. Mae'n dweud yn glir mai fe ydy’r Bugail fyddai'n marw o'i wirfodd dros y praidd.
Pan ofynnodd yr Iddewon iddo ai fe oedd y Meseia ai peidio, mae'n dweud fod ei eiriau a'i wyrthiau yn dangos pwy ydy e, ond dyn nhw ddim yn credu achos dyn nhw ddim yn perthyn i'w braidd. Mae'n uniaethu ei hun â'r Tad eto ac mae'r Iddewon yn bygwth ei ladd am gablu.