In 11:1-57

 

Pan gododd Iesu Lasarus yn ôl yn fyw a'i alw allan o'r bedd roedd Iesu'n dangos mai fe ydy'r atgyfodiad a'r bywyd (cf.5:21).
Yn Luc 10:40-41 dyn ni’n gweld fod Martha ddim wir wedi deall beth oedd Iesu’n ei ddysgu, ond yma (cf.adn.21-27) dyn ni’n gweld fod ganddi hi bellach ffydd gadarn.
Daeth llawer o Iddewon i gredu yn Iesu o ganlyniad i'w wyrth, ond dyma wrthwynebiad pobl eraill yn arwain y Sanhedrin i benderfynnu ar bolisi pendant fod rhaid i Iesu farw.