In 19:13,17,20

Mae llawer o gyfieithiadau Saesneg yn dweud Aramaeg yma yn hytrach na Hebraeg, am fod ysgolheigion wedi meddwl mai Aramaeg oedd yr iaith roedd mwyafrif yr Iddewon yn ei siarad yn y ganrif gyntaf. Fodd bynnag, ers darganfod Sgroliau’r Môr Marw mae mwy a mwy o ysgolheigion yn cydnabod fod Iddewon y cyfnod yn siarad tair iaith – Hebraeg, Aramaeg a Groeg.

Mae’r BCN yn ei gyfieithu fel “Iaith yr Iddewon”, ond Hebra’isti (Hebraeg) ydy’r gair Groeg yma, nid Syristi (Aramaeg).

Gwelir yr un gair yn Ioan 5:2; 20:16; Actau 21:40; 22:2; 26:14; Datguddiad 9:11; 1:16.