In 8:12-59

 

Mae'r gwrthwynebiad i Iesu'n parhau. Mae Iesu'n dweud mai fe ydy'r golau sy’n goleuo’r byd, ac mae'n uniaethu ei hun â'r Tad nefol eto (adn.19). Mae'n dangos fod rhaid iddyn nhw gael eu rhyddhau o afael pechod - ond maen nhw’n mynnu eu bod eisoes yn rhydd am eu bod yn Iddewon (‘disgynyddion Abraham’). Mae Iesu'n dweud fod y ffaith eu bod nhw am ei ladd e yn dangos eu bod nhw’n blant i'r diafol! Roedd Abraham yn wahanol - roedd wrth ei fodd yn gweld (trwy ffydd - cf.Heb.11:13) y byddai’r hyn oedd Duw’n fwriadu yn dod yn wir yn y Meseia.