Ioan Marc

 

Cymeriad yn y Testament Newydd o gyfnod yr Eglwys fore. Roedd Ioan Marc yn fab i Mair, gwraig oedd yn gadael i’r Cristnogion cynnar gyfarfod yn ei thŷ yn Jerwsalem. Cafodd Ioan Marc gyfle, felly, i gyfarfod y tystion cyntaf a gwrando ar eu profiadau. Roedd yn gefnder i Barnabas aeth gyda Paul ar ei deithiau cenhadol. Aeth Ioan Marc hefyd gyda Paul a Barnabas ar y daith genhadol gyntaf, ond yna penderfynodd eu gadael a mynd adref. Dyn ni ddim yn gwybod pam – hiraeth efallai? Arweiniodd hyn at anghydweld rhwng Paul a Barnabas yn nes ymlaen, a gwahanodd y ddau. ond cafodd Ioan Marc ail gyfle, ac daeth yn gydweithiwr ac yn help mawr i Paul. Mae llawer o ysgolheigion yn credu mai Ioan Marc ysgrifennodd Efengyl Marc.
(gweler Actau 12:12,25;13:5,13; 15:37,39; Colosiaid 4:10; 2 Timotheus 4:11; Philemon 24; 1 Pedr 5:13 hefyd MARC)